Lleoliad: Fideogynhadledd drwy Zoom
Dyddiad: Dydd Iau, 6 Gorffennaf 2023
Amser:
09.30 -
10.50
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13627
------
Categori |
Enwau |
Aelodau o’r Senedd: |
Peredur Owen Griffiths AS (Cadeirydd) Peter Fox AS Mike Hedges AS Rhianon Passmore AS |
Staff y Pwyllgor: |
Owain Roberts (Clerc) Georgina Owen (Ail Glerc) Mike Lewis (Dirprwy Glerc) Catherine McKeag (Ysgrifenyddiaeth) Martin Jennings (Ymchwilydd) Owen Holzinger (Ymchwilydd) |
Yn ei gyfarfod ar 28 Mehefin 2023, cytunodd y Pwyllgor ar gynnig o dan Reol Sefydlog 17.42(ix) i wahardd y cyhoedd o’r cyfarfod heddiw.
Cofrestru (09.15-09.30)
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i gyfarfod y Pwyllgor Cyllid.
2 Cyllideb Ddrafft Llywodraeth Cymru 2024-25: Y Dull o Graffu ar y Gyllideb
2.1 Trafododd y Pwyllgor yr ohebiaeth a'r papur ar y dull o graffu ar y gyllideb.
2.2 Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol am amserlen y Gyllideb Ddrafft ar gyfer 2024-25.
3 Trafod Blaenraglen Waith y Pwyllgor
3.1 Trafododd y Pwyllgor y Flaenraglen Waith.
4 Goblygiadau ariannol deddfwriaeth arfaethedig i ddiwygio’r Senedd
4.1 Trafododd y Pwyllgor y papur ar oblygiadau ariannol deddfwriaeth arfaethedig i ddiwygio'r Senedd.
5 Senedd y DU: Y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol
5.1 Trafododd y Pwyllgor y cylch gorchwyl ar gyfer yr ymchwiliad.
6 Trafod yr ymatebion i'r adolygiad o'r Datganiad o Egwyddorion
6.1 Trafododd y Pwyllgor yr ymatebion i’r adolygiad o’r Datganiad o Egwyddorion.
7 Archwilio Cymru - Amcangyfrif Atodol 2023-24
7.1 Ystyriodd y Pwyllgor Amcangyfrif Atodol Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer 2023-24.